Addysg Cymru
Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg // This page is also available in English
www.facebook.com/educationwales
18/06/2026
Disgwyl dy ganlyniadau TGAU?
Gwna gais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg nawr.
Gall myfyrwyr wneud cais hyd yn oed cyn dewis ble neu beth maen nhw eisiau ei astudio! Llai o boeni, mwy o astudio!
Mwy o fanylion am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg gan gynnwys y meini prawf cymhwystra: https://www.llyw.cymru/cymorth-myfyrwyr-cymru
17/06/2026
Llongyfarchiadau enfawr i holl deilyngwyr Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2025.
Mae'r gwobrau hyn yn dathlu gwaith arbennig unigolion, prosiectau a sefydliadau ledled Cymru, a'r gwahaniaeth cadarnhaol y maent yn ei wneud i fywydau pobl ifanc.
Mae rownd derfynol eleni yn enghraifft wych o'r ymroddiad, y creadigrwydd a'r effaith y mae gwaith ieuenctid yn eu cael mewn cymunedau ar draws y wlad.
Diolch o galon i chi gyd am bopeth rydych yn ei wneud.
Dilynwch y ddolen yn y sylwadau i weld rhestr lawn y teilyngwyr a'r categorïau gwobrau:
11/06/2026
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gweithlu, gwella recriwtio a chadw staff er mwyn codi safonau yn ein hysgolion. Dyna pam rydym wedi cynyddu’r cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon fel rhan o’n cynllun 100 diwrnod.
Creu’r amodau gorau ar gyfer dysgu. I Gymru gyfan.
10/06/2026
Dylai pob dysgwr deimlo’n werthfawr, wedi’i wrando arno ac wedi’i gynnwys yn ei gymuned ysgol.
Mae Estyn Allan at Bob Dysgwr ar Hwb yn adnodd newydd sy’n eich helpu i gymryd amser i fyfyrio ar eich dull o gynhwysiant a thegwch, ac i ganfod ffyrdd ymarferol o gynyddu cyfranogiad, perthyn a chyrhaeddiad ar gyfer pob dysgwr.
Os ydych yn chwilio am ffyrdd i sbarduno sgyrsiau â staff neu i adolygu eich arfer cynhwysol, mae’r pecyn yn cynnig awgrymiadau ac offer hunanwerthuso i gefnogi eich siwrnai.
Dysgwch fwy: https://hwb.gov.wales/repository/resource/c2f44d1b-54fa-4609-bda8-47566e6e679f
Click here to claim your Sponsored Listing.
Category
Contact the organisation
Website
Address
Cardiff
CF103NQ