CBAC / WJEC

CBAC / WJEC

Share

Mae CBAC yn brif gorff arholi sy'n darparu cymwysterau ac asesiadau arholiadau ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau annibynnol.

Dysgu Proffesiynol RHAD AC AM DDIM i gefnogi cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 wedi'i gadarnhau 08/06/2026

💻 Bydd cyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein rhad ac am ddim ar gael ar gyfer ein cymwysterau Project Personol, Cyfres Sgiliau, TAAU a Sylfaen newydd o fis Gorffennaf 2026.

Bydd pob sesiwn ddwyieithog yn rhoi arweiniad ar ofynion y manylebau, yn tynnu sylw at gynnwys allweddol ac yn cynnig awgrymiadau ar gyfer cyflwyno'r cymwysterau'n effeithiol yn yr ystafell ddosbarth cyn eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.

🔗 Dysgwch fwy:

Dysgu Proffesiynol RHAD AC AM DDIM i gefnogi cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 wedi'i gadarnhau Rydym yn falch iawn o gyhoeddi pecyn cynhwysfawr o gyfleoedd dysgu proffesiynol (DP) RHAD AC AM DDIM i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan gynnwys cymwysterau TAAU, Sylfaen, y Gyfres Sgiliau a Phroject Personol. 

Mae'r ail set o fanylebau drafft Gwneud-i-Gymru Ton 3 bellach ar gael 02/06/2026

🆕 Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi'r ail set o fanylebau drafft ar gyfer ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3, gan gynnwys ein cymwysterau Project Personol a Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith.

Bellach ar gael i'w gweld ar-lein, mae'r manylebau drafft hyn wedi'u cyflwyno i Cymwysterau Cymru eu cymeradwyo, gyda'r bwriad i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027:

Mae'r ail set o fanylebau drafft Gwneud-i-Gymru Ton 3 bellach ar gael Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r ail set o fanylebau drafft ar gyfer trydedd ton ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys ein cymwysterau Project Personol a Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith, gan gynnig llwybrau dysgu pellach i ddysgwyr ledled Cymru. 

Cyfarfod â Siân Coathup, eich Swyddog Cefnogaeth Ranbarthol 28/05/2026

💬 "Yr hyn sy'n fy mhlesio fwyaf am fy rôl yw'r adegau hynny pan fyddaf yn rhoi cydlynydd ansicr ar ben ffordd ynghylch ein deunyddiau ac adnoddau ac hwythau wedyn yn dod i ddeall y gofynion. Mae gweld gwên ar wyneb rhywun pan fyddan nhw'n gadael ein cyfarfod bob amser yn gwneud i mi wenu hefyd. Mae'n deimlad braf."

Wrth i ni baratoi ar gyfer addysgu ein cymwysterau Project Personol a Chyfres Sgiliau newydd am y tro cyntaf ym mis Medi 2027, mae Siân Coathup yn trafod ei rôl fel Swyddog Cefnogi gan helpu ysgolion ar draws Cymru i gyflwyno’r cymwysterau newydd cyffrous hyn:

Cyfarfod â Siân Coathup, eich Swyddog Cefnogaeth Ranbarthol Bydd ein cymwysterau Cyfres Sgiliau a Phroject Personol newydd yn barod i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027. Dewch i gwrdd â'r tîm a fydd yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd wrth gyflwyno'r cymwysterau newydd cyffrous hyn: Allwch chi sôn ychydig am eich rôl a'ch cefndir? “Siân Co...

Want your organisation to be the top-listed Government Service in Cardiff?
Click here to claim your Sponsored Listing.

Telephone

Address

245 Western Avenue
Cardiff
CF52YX

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm